Sophie

Sophie

distrib > Fedora > 13 > i386 > by-pkgid > 2475a8192e6a5cf467114b9ae5d0c0ce > files > 12

OmegaT-2.2.3-0.2.04_Beta.fc13.noarch.rpm

Cyfieithiad gan Rhoslyn Prys, hawlfraint© 2008

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
  Ffeil Darllen fi OmegaT 2.0

  1.  Gwybodaeth am OmegaT
  2.  Beth yw OmegaT?
  3.  Gosod OmegaT
  4.  Cyfraniadau i OmegaT
  5.  A yw OmegaT yn eich poeni chi? Ydych chi angen cymorth?
  6.  Manylion ryddhau

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
  1.  Gwybodaeth am OmegaT


Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am OmegaT i'w gael yn:
      http://www.omegat.org/

Mae cefnogaeth i'r defnyddiwr ar gael yn y grŵp defnyddiwr Yahoo (amlieithog), lle mae archif chwiliadwy ar gael heb danysgrifiad.
     http://groups.yahoo.com/group/OmegaT/

Cais am Welliannau (yn Saesneg), ar wefan SourceForge:
     http://sourceforge.net/tracker/?group_id=68187&atid=520350

Negeseuon gwall (yn Saesneg), gwefan SourceForge:
     http://sourceforge.net/tracker/?group_id=68187&atid=520347

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
  2.  Beth yw OmegaT?

Offeryn Cyfieithu gyda Chymorth Cyfrifiadur yw OmegaT (CAT). Mae am ddim, hynny yw does dim rhaid talu i'w ddefnyddio, hyd yn oed ar gyfer defnydd proffesiynol, ac rydych yn rhydd i'w newid a neu ei ailddosbarthu cyn belled â'ch bod yn parchu trwydded y defnyddiwr.

Prif nodweddion OmegaT yw
   - gallu rhedeg ar unrhyw system weithredu sy'n cynnal Java
  - gallu defnyddio unrhyw ffeil TMX dilys fel cyfeirnod cyfieithu
  - segmentu brawddegau hyblyg (gan ddefnyddio dull SRX)
  - chwilio o fewn y project a'r cof cyfieithu penodol
  - chwilio am ffeiliau fformatau sy'n cael eu cynnal, o fewn unrhyw ffolder 
  - cyfatebiad bras cyfieithiadau
  - trin projectau sylweddol gan gynnwys hierarchaethau cyfeiriaduron cymhleth
  - cynnal geirfaoedd (ar gyfer gwirio termau) 
  - cynnal gwiryddion sillafu Cod Agored gweithredol
  - cynnal geiriaduron StarDict
  - cynnal gwasanaethau cyfieithu peirianyddol Google Translate
  - dogfennaeth a thiwtorial clir a chynhwysfawr
  - wedi ei leoleiddio i nifer o ieithoedd.

Mae OmegaT yn cynnal y fformatau ffeil canlynol:
  - testun plaen
  - HTML ac XHTML
  - didolwr Cymorth HTML
  - OpenDocument/OpenOffice.org
  - Java resource bundles (.properties)
  - ffeiliau INI (ffeiliau gyda pharau allwedd=gwerth o unrhyw amgodiad)
  - ffeiliau PO
  - fformat ffeil dogfennau DocBook
  - ffeiliau Microsoft OpenXML
  - ffeiliau Okapi uniaith  XLIFF
  - QuarkXPress CopyFlowGold
  Ffeiliau Isdeitlo (STR)
  - ResX
  - adnoddau Android
  - LaTeX

Mae modd addasu OmegaT i gynnal ffeiliau eraill hefyd.

Gall OmegaT ddidoli'r hierarchaeth fwyaf cymhleth,  yn awtomatig, i gael mynediad at y ffeiliau sy'n cael eu cynnal a chynhyrchu cyfeiriadur targed gyda'r union un strwythur, gan gynnwys copïau o ffeiliau sydd ddim yn cael eu cynnal.

Mae tiwtorial ar gael wrth gychwyn OmegaT pan fydd yn dangos y Tiwtorial Cychwyn Cyflym.

Mae'r llawlyfr defnyddiwr o fewn y pecynnau rydych newydd eu llwytho i lawr ac mae modd cael mynediad atynt drwy'r ddewislen [Cymorth] ar ôl cychwyn OmegaT.

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
 3. Gosod OmegaT

Mae OmegaT angen fersiwn 1.4 o'r Java Runtime Environment neu uwch er mwyn rhedeg. Mae OmegaT nawr ar gael gyda 'r Java Runtime Environment yn rhan o'r pecyn er mwyn arbed trafferthion i ddefnyddwyr ei ddewis, a'i osod. 

Os yw Java eisoes gennych, y ffordd hawsaf i osod y fersiwn cyfredol o OmegaT yw defnyddio Java Web Start.  
Ar gyfer y pwrpas yma llwythwch i lawr y ffeil ganlynol a'i gweithredu:

   http://omegat.sourceforge.net/webstart/OmegaT.jnlp

Bydd yn gosod yr amgylchedd cywir ar gyfer eich cyfrifiadur a'r rhaglen wrth ei redeg gyntaf. Nid oes angen i alwadau wedyn fod ar-lein.

Yn ystod y gosod, yn ddibynnol ar eich system weithredu, efallai byddwch yn derbyn nifer o rybuddion diogelwch. Mae'r dystysgrif wedi ei llofnodi gan "Didier Briel". 
Mae'r caniatad rydych yn ei roi i'r fersiwn yma ( y mae modd son amdano fel ",myneediad dilyffethair i'r cyfrifiadur") yn union yr un peth á'r caniatad sy'n cael ei roi i'r fersiwn lleol, fel sydd wedi ei osod drwy drefn, sy'n cael ei ddisgrifio'n ddiweddarach: mae nhw'n caniatau mynediad i ddisg caled y cyfrifiadur. Bydd clicio pellach ar OmegaT.jnlp  yn gwirio am ddiweddariadau i OmegaT, os ydych ar-lein, gosodwch nhw os oes yna ac yna cychwyn OmegaT 

Mae'r ffyrdd amrywiol o lwytho i lawr a gosod OmegaT yn cael eu dangos isod. 

Defnyddwyr Windows a Linux: os ydych yn siŵr fod fersiwn addas o'r JRE wedi ei osod ar eich system, gallwch osod y fersiwn o OmegaT heb JRE. Mae hyn yn cael ei ddynodi drwy enw'r fersiwn, "Without _JRE") 
Os oes amheuaeth, defnyddiwch y fersiwn "safonol", h.y. gyda'r JRE. Mae hyn yn ddigon diogel oherwydd hyd yn oed os yw'r JRE ar y system ni fydd y fersiwn yma'n ymyrryd ag ef.

Defnyddwyr Linux:  nid yw OmegaT yn gweithio gyda'r fersiwn rhydd/cod agored o Java sydd wedi ei gynnwys gydag amryw o ddosbarthiadau o Linux (e.e., Ubuntu) am eu bod un ai yn hen neu anghyflawn. Llwytho i lawr a gosod Java Runtime Environment (JRE) Sun drwy'r cyswllt uchod neu lwytho i lawr a gosod y pecyn OmegaT sy'n cynnwys y JRE (bwndel .tar.gz ar gyfer Linux) 

Defnyddwyr Mac: mae'r JRE eisoes wedi ei osod ar y MAC OS

Defnyddwyr Linux ar systemau PPC: bydd rhaid i ddefnyddwyr lwytho i lawr JRE IBM gan nad yw Sun yn darparu JRE ar gyfer systemau PPC. Yn yr achos yma, llwytho i lawr o:

    http://www-128.ibm.com/developerworks/java/jdk/linux/download.html 


3.2 Gosod * Defnyddwyr Windows: Cychwynnwch y rhaglen osod Os hoffech chi gall y rhaglen osod greu llwybrau byr i gychwyn OmegaT
Eraill: I osod OmegaT, crëwch ffolder addas ar gyfer OmegaT ( e.e., /usr/local/lib ar Linux). Copïo archif  zip neu tar.gz OmegaT i'r ffolder yma a'i ddadbacio.

Cychwyn OmegaT Mae nifer o ffyrdd i gychwyn OmegaT.

*Defnyddwyr Windows: clic dwbl i'r ffeil OmegaT.exe Os ydych yn gallu gweld OmegaT ond nid OmegaT.exe yn eich Rheolwr Ffeiliau (Windows Explorer), newidiwch y gosodiadau fel bo estyniadau'r ffeiliau'n cael eu dangos.

*Drwy rhoi clic dwbl i'r ffeil OmegaT.jar Dim os yw'r ffeil .jar wedi ei gysylltu â Java yn eich system y bydd hwn yn gweithio.

*O'r llinell orchymyn. Y gorchymyn i gychwyn OmegaT yw:

cd <ffolder lle mae ffeil OmegaT.jar wedi ei leoli>

<enw a llwybr ffeil gweithredol Java> -jar Omega.jar

(Ffeil weithredol Java yw'r ffeil java ar Linux a java.exe yn Windows.
Os yw Java wedi ei osod ar lefel y system, nid oes angen gosod y llwybr llawn)

*Defnyddwyr Windows: Mae'r rhaglen osod yn gallu creu llwybrau byr ar eich cyfer yn y ddewislen cychwyn, ar y bwrdd gwaith Mae modd llusgo ffeil OmegaT i'r ddewislen cychwyn, y bwrdd gwaith neu'r ardal cychwyn cyflym i gysylltu iddi o'r mannau hynny.

*Defnyddwyr Linux KDE: gallwch ychwanegu OmegaT i'ch dewislenni fel a ganlyn:

Control Center - Desktop - Panels - Menus - Edit K Menu - File - New Item/New 
Submenu.

Yna wedi dewis dewislen addas, ychwanegu isddewislen/eitem gyda File - New Submenu a File - New Item. Rhowch OmegaT fel enw'r eitem newydd.

Yn y maes "Gorchymyn", defnyddiwch y botymau symud i ganfod y sgript cychwyn OmegaT a'i ddewis. 

Clicio ar y botwm eicon (i'r dde o'r meysydd Enw/Disgrifiad/Sylw) - Eiconau Eraill - Pori, a symud i'r isffolder /images yn ffolder rhaglen OmegaT. Dewis eicon OmegaT.png.

I orffen, cadw'r newidiadau gyda Ffeil - Cadw.

*Defnyddwyr GNOME Linux: gallwch ychwanegu OmegaT i'ch panel (y bar ar frig y sgrin) fel a ganlyn:

Clic de ar y panel - Ychwanegu Cychwynnwr Newydd. Rhowch "OmegaT" yn y maes "Enw"; yn y maes "Gorchymyn", defnyddiwch y botwm symud i ganfod eich sgript cychwyn OmegaT. Dewiswch y sgript a chadarnhau gyda Iawn

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
 4. Ymuno â phroject OmegaT

I gyfrannu at ddatblygiad, cysylltwch â'r datblygwyr yn:
    http://lists.sourceforge.net/lists/listinfo/omegat-development

I gyfieithu rhyngwyneb, llawlyfr defnyddiwr neu ddogfennau perthnasol eraill OmegaT, darllenwch:
      
      http://www.omegat.org/en/translation-info.html

Tanysgrifiwch i'r rhestr cyfieithwyr:
      http://lists.sourceforge.net/mailman/listinfo/omegat-l10n

Am gyfraniadau eraill, tanysgrifiwch â'r grŵp defnyddwyr:
      http://tech.groups.yahoo.com/group/omegat/

I glywed am beth sy'n digwydd ym myd OmegaT...

  Gwaith gwreiddiol Keith Godfrey yw OmegaT.
  Marc Prior yw cyd-drefnydd project OmegaT.

Mae'r cyfranwyr blaenorol yn cynnwys:

Cyfrannwyd cod gan
  Zoltan Bartko
  Didier Briel (rheolwr rhyddhau)
  Kim Bruning
  Alex Buloichik
  Sandra Jean Chua
  Martin Fleurke  
  Wildrich Fourie
  Thomas Huriaux
  Fabián Mandelbaum
  Maxym Mykhalchuk 
  Arno Peters
  Henry Pijffers 
  Tiago Saboga
  Andrzej Sawuła
  Benjamin Siband
  Martin Wunderlich

Cyfraniadau eraill gan
  Sabine Cretella
  Dmitri Gabinski
  Jean-Christophe Helary rheolwr lleoleiddio)
  Vito Smolej (rheolwr dogfennau)
  Samuel Murray
  Marc Prior 
  a llawer iawn o bobl gymwynasgar

(Os ydych yn credu eich bod wedi cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol i Broject OmegaT a heb gael eich enwi ar y rhestr, cysylltwch â ni.)

Mae OmegaT yn defnyddio'r llyfrgelloedd canlynol:

  HTMLParser 1.6 gan Somik Raha, Derrick Oswald ac eraill (Trwydded LGPL)
  http://sourceforge.net/projects/htmlparser

  MRJ Adapter 1.0.8 gan Steve Roy (Trwydded LGPL)
  http://homepage.mac.com/sroy/mrjadapter/

  VLDocking Framework 2.0.6d gan VLSolutions (Trwydded CeCILL)
  http://www.vlsolutions.com/en/products/docking/

  Hunspell 1.1.12 gan László Németh ac eraill (Trwydded LGPL)

  JNA gan Todd Fast, Timothy Wall ac eraill (Trwydded LGPL)

  Swing-Layout 1.0.2 (Trwydded LGPL)

  Jmyspell 2.1.4 (Trwydded LGPL)

  JAXB 2.1.7 (GPLv2 + classpath exception)

Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009 
 5.  A yw OmegaT yn eich poeni chi? Ydych chi angen cymorth?

Cyn adrodd ar wall, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y ddogfennaeth yn fanwl. Efallai bod yr hyn rydych yn ei weld yn nodwedd o OmegaT rydych newydd ei ddarganfod. [Os ewch i edrych ar gofnod OmegaT a gweld geiriau fel
"Error", "Warning", "Exception", neu "died unexpectedly" yna rydych wedi darganfod problem go iawn (mae log.txt i'w weld yn ffolder dewisiadau defnyddiwr, gw. y llawlyfr am ei leoliad).

Y peth nesaf i'w wneud yw cadarnhau'r hyn rydych wedi ei ganfod gyda defnyddwyr i wneud yn siŵr nad yw hyn wedi ei adrodd o'r blaen. Mae modd gwirio'r dudalen cofnod gwall yn SourceForge hefyd. Dim ond pan rydych yn siŵr mai chi yw'r cyntaf i ganfod cyfres o ddigwyddiadau mae modd eu hail greu sydd wedi cychwyn rhywbeth nad yw i fod i ddigwydd y dylech anfon adroddiad gwall.

Mae pob adroddiad gwall da angen tri peth.
  - Camau i'w hatgynhyrchu
  - Beth i ddisgwyl ei weld, a
  - Beth welwyd yn lle hynny.

Gallwch ychwanegu copïau o ffeiliau, darnau o'r log, lluniau sgrin, unrhyw beth rydych yn ei feddwl bydd o gymorth i'r datblygwyr i ganfod a chywiro eich gwall.

I bori archifau y grŵp defnyddwyr ewch i:
     http://groups.yahoo.com/group/OmegaT/

I bori'r dudalen cofnodi gwall ac i gofnodi adroddiad gwall os oes angen, ewch i:
     http://sourceforge.net/tracker/?group_id=68187&atid=520347

I gadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd i'ch adroddiad gwall, cofrestrwch fel defnyddiwr SourceForge.

==============================================================================
6.   Manylion ryddhau

Gwelwch y ffeil 'changes.txt'  am wybodaeth fanwl am newidiadau yn y ryddhad yma a'r rhai blaenorol.


Cyfieithiad Rhoslyn Prys, hawlfraint 2009